P-05-729– Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Lewis ar ôl casglu 15 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Bu cyfyngiadau cyflymder yn nhwnelau Bryn-glas ac o'u cwmpas ar gerbytffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin ar yr M4 ers 2011, ac maent yn achosi diflastod i fodurwyr di-rif bob dydd. Cynigir y dylid tynnu'r holl gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal hon a dychwelyd at y terfyn cyflymder cenedlaethol i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Caerffili
· Dwyrain De Cymru